Archive for Medi, 2009
Un o blant y chwyldro
Sioc a dweud y lleiaf oedd darganfod bore ddoe ar Twitter fod Owain Schiavone, neu Sgiv i bobl sy’n ei adnabod, wedi ei benodi’n Brif Weithredwr newydd Golwg360. Dwi wedi adnabod Owain ers rhai blynyddoedd – dwi’n cofio mae’r tro cyntaf i mi ddod ar ei draws oedd wrth i mi geisio cael gafael ar [...]
Podlediad ar-lein
Mae rhai wedi gofyn os oes modd cael y podlediad ar gael ar-lein i’w wrando arno. Wel, oes mae na.
Dyma fo i chwi.
Nid yw’r quality cystal ar podlediad iawn mae’n ddrwg genai.
Podlediadau Metastwnsh
Dydd Iau diwethaf fe wnaeth Rhys, Rhodri, Bryn a Sioned fynd o’i chwmpas hi i recordio podlediad cyntaf Metastwnsh. Doeddwn i ddim yno oherwydd… wel… cewch glywed yn y podlediad. Ar ôl i’r podlediad gael ei recordio fe anfonodd Rhys o draw atai i’w roi ar iTunes ar eich cyfer chi.
Er mwyn cael y podlediad [...]
Podlediad cyntaf Metastwnsh ar ei ffordd
Neithiwr cawsom ni (@rhysllwyd, @nwdls, @bryns ac @llef) dipyn o hwyl yn recordio podlediad cyntaf Metastwnsh. Yn anffodus fethodd @gareth_stwnsh ymuno gyda ni – ond cewch glywed mwy am ei helyntion yn y podlediad ei hun.
Y pynciau sy’n cael eu trafod yn y poedlediad cyntaf ydy:
- Ffôn Cymraeg Samsung
- Codi tâl am ddefnyddio BBC iPlayer
- [...]
Google Push: Sut i osod ar eich iPhone neu'r iPod Touch
O’r diwedd mae Gmail Push wedi cyrraedd yr iPhone. Fe olyga hyn y bydd eich ebist jest yn flitro trwyddo i’ch dyfais yn awtomatig fel sy’n digwydd ar y Blackberrys.
Cyn dechrau ar y broses maen rhaid i chi ddiweddaru OS eich iPhone neu eich iPod Touch i’r un diweddaraf 3.0.
1. Agorwch Settings ar dudalen gartref [...]
Ydym ni'n rhannu gormod ar y rhyngrwyd? Sgwrs ar Radio Cymru
Fuesi ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru bore ‘ma i drafod y testun “Ydym ni’n rhannu gormod ar y rhyngrwyd, a pam fod pobl yn gwneud hynny?” Fel cefndir i’r drafodaeth ches i nghymell i ddarllen yr erthygl yma a ymddangosodd yn Daily Mail rai misoedd yn ôl.
Dyma i chi’r eitem eto os wnaetho [...]
Cynulleidfa i apps symudol Cymraeg?
Mae’r app iPhone “Welsh Lessons” wedi gwerthu dros 1,000 o gopiau yn y 6 wythnos cyntaf gan gyrraedd rhif 3 yn siart Apps Addysgol (am dâl).
Cafodd yr app gafodd ei lansio yn y Steddfod ei gynhyrchu gan Chris Price yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae o wedi ei synnu at lwyddiant y feddalwedd gafodd ei [...]
Google yn cynnig cyfieithiadau o chwiliadau Cymraeg
Newydd sylwi bod Google wedi ymgorffori dolen “Translate this page” ar gyfer eu chwiliadau.
Felly mae Google yn adnabod bod Metastwnsh.com yn wefan Gymraeg ac yn cynnig cyfieithiad yn y chwiliad. Handi de. Dwi’n gwybod bod llawer iawn o bobol yn dod i’r wefan drwy Google (er, mwy trwy Bing y dyddiau hyn…a sgennon nhw ddim [...]
Paentio'r byd yn wyrdd…
Roeddwn ni’n darllen yn ddiweddar yn Wired am wyrddni honedig awyrennau Virgin. Ar hyn o bryd mae Virgin yn sôn am ddefnyddio 5% o biodanwydd yn eu hawyrennau ac yn falch o allu clochdar hynny i bawb. Ond byrdwn yr ysgrif mewn gwirionedd oedd dangos i ni fod Virgin a chwmnïau eraill yn ein dallu [...]
Samsung S5600 GT
Wel, dyma fo… Mae Metastwnsh wedi derbyn copi o’r ffon Samsung S5600-GT hefo’r geiriadur a’r rhyngwyneb Cymraeg.
Fydd ‘na adolygiad llawn yn dod cyn bo hir (yn yr wythnosau nesaf). Fydd tîm Metastwnsh yn edrych yn fanwl trwy’r dechnoleg, y gwasanaethau a’r datblygiadau mewn cyd-destun ehangach technoleg yn y Gymraeg.
Hwyl am y tro,
Bryn



