Archive for Gorffennaf, 2009
Trafodaeth: Pobol Ifanc, y Cyfryngau Digidol a'r Gymraeg
Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar Faes y Steddfod ar sut mae pobol ifanc yn defnyddio’r we yn y Gymraeg, ac a oes angen/posib cynyddu’r defnydd hwnnw.
Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru sy’n ei drefnu ar y cyd gyda’r RTS.
Mi fydda i’n cadeirio’r panel ar y pwnc felly os oes ganddoch chi unrhyw gwestiwn [...]
Llywydd Gwlad y Basg: "mynediad rhyngrwyd am ddim, a di-derfyn i bawb"
Basque president argues for “unrestricted, free access to Internet for all” at the inauguration of the 17th Euskal Encounter
Oni fyddai’n braf clywed Rhodri Morgan yn dweud yr un peth yma?
O na byddai’n haf o hyd…
MSN Video Player
Mae Microsoft wedi creu gwasanaeth Fideo sy’n dangos rhaglenni llawn. Bydd y gwasanaeth hyn yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys 300 o oriau o raglenni. Bydd y rhaglenni ar gael ar fformat WMV a Flash, er hyn mae yna sôn y bydd MSN yn mynd ymlaen i defnyddio ‘Silverlight’ fel fformat possib yn [...]
'Stwnsh 'Steddfod
Fel arbrawf bach, ‘da ni wedi creu gwefan ar gyfer y ’steddfod o’r enw Stwnsh Steddfod, sy’n cymeryd gwybodaeth o Flickr, Twitter a Google a’i rhoi ar un dudalen cyfleus.
Y bwriad oedd i weld os oedd hi’n bosib i greu gwefan cyflym i ddangos defnydd o wefannau cymdeithasol gan y bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau [...]
Twitter ar o2
Cyhoeddodd O2 heddiw y bydd negeseuon o’ch cyfrif Twitter at eich ffôn symudol ar gael o heddiw ymlaen yn rhad ac am ddim. Bydd hefyd modd anfon eich tweets trwy neges SMS at twitter, er bydd hyn yn costio pris neges SMS (neu yn dod o’ch “inclusive minutes”).
Cyfrannwr newydd i Metastwnsh
Gyfeillion,
Dwi’n falch o gael dweud fod Bryn Salisbury wedi ymmuno gyda thîm Metastwnsh.
Bryn sydd yn gyfrifol am ein tudalen newydd Stwnsh ‘Steddfod (fydd yn mynd yn fyw ymhen dipyn).
I wybod mwy am Bryn, ewch i’r dudalen Cyfrannwyr.
Croeso Bryn!
Cysill ar-lein i lansio yn y Steddfod
Newydd dderbyn hwn ar ebost:
Gwahoddiad i lansio Cysill Ar-lein Eisteddfod Genedlaethol 2009
Annwyl gyfaill
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i lansio fersiwn ar-lein o’n gwirydd sillafu a gramadeg, Cysill, yn stondin Prifysgol Bangor, am 12.30 brynhawn Llun, y 3ydd o Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau, yn y Bala.
Mae hi’n bum mlynedd ers i Uned Technolegau [...]
Sequence, a'u CMS Cymraeg "cyntaf"
Mae spat bach wedi codi ar y we wedi i gwmni Sequence ryddhau datganiad yn honni eu bod nhw wedi creu y CMS Cymraeg cyntaf. Ers hynny, maent wedi newid y datganiad i ddweud ei fod y CMS “Enterprise” Cymraeg cyntaf (h.y. y CMS Cymraeg cyntaf i fynd i’w werthu’n fasnachol tu hwnt o brojectau [...]
Cynyrch newydd gan Apple Heddiw?
Mae’n ymddangos bod yr Apple Store i lawr heddiw. Mae’r neges yn dweud, “We’ll be back soon”. Mae hyn yn olygfa cyfarwydd yn ystod adegau y mae’r cwmni yn cyhoeddi cynyrch newydd. Er hynnid yw’r cwmni wedi dweud y bydd yna cyhoeddiad heddiw. Felly amser a ddengys..
Manylion #eisteddfod09 ar Google Maps
Dydd Sadwrn fe es i am dro i Gwyl (arall) yng Nghaernarfon i glywed John Gower yn sgwrsio gyda Mike Parker am ei lyfr newydd Map Addict. Roedd e’n sgwrs ddifyr iawn a dwi’n disgwyl ymlaen i ddarllen fy nghopi wedi ei arwyddo. Wel, dwi wedi bod yn brysur yn mapio hefyd – wnes i [...]



