Archive for Mai, 2009
iPhone fel modem
Dyma’r tro cyntaf i mi ddefnyddio’r MacBook tu allan i’r ty neu coleg. Dwi’n eistedd yn nhafarn yr Oakley Arms yn Maentwrog yn mwynhau peint o gwrw oer. Yn anfodus does dim signal WiFi agored ar gael yma.
Mi oedd na raglen yn yr App Store ers dalwm a oedd yn galluogi chi i ddefnyddio’r iPhone [...]
Cyffesion couch potato – Fi, Cantona a Champ Man
Dwi ddim yn berson chwaraeon, ddim o gwbl. Ond mae gennai rhyw ddiddordeb bach mewn dilyn pêl droed a hynny maen debyg oherwydd i mi gael fy nghyfareddu gyda Championship Manager, neu Champ Man, pan oeddwn yn iau – tair ar ddeg o flynyddoedd yn ôl erbyn hyn fel maen digwydd. Pan oeddwn ni yn [...]
Dolen Sydyn: Primer Llythrennedd Cyfryngau Digidol
Os da chi eisiau dysgu rhywun, neu ddeall eich ei hunain be goblyn yw’r cyfryngau digidiol a sut mae pobol yn eu defnyddio mae’r wefan hon yn un angenrheidiol. Mae’r person yma wedi casglu llwyth o fideos oddi ar y we sy’n rhoi cipolwg mewn i’r enghreifftiau gorau o:
Conversation Starters
21st Century Learning
Copyright, Copyleft & Remix/Mashup [...]
Adroddiad: Sesiwn syniadau y we Gymraeg
Ddiwedd Ebrill cynhaliodd Sefydliad Mercator gyfarfod yn Abersytwyth (yn y Ganolfan See3D) gyda’r bwriad o ddod â phobol sy’n gweithio yn yr amrywiol faesydd sy’n gysylltiedig a’r we yn y Gymraeg at eu gilydd i drafod eu gwaith ac i ddatblygu syniadau newydd. Y bwriad oedd cael fforwm lle buasai posib trafod yn agored am [...]
Pecyn Iaith Gymraeg i Microsoft Sharepoint
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg newydd gyhoeddi y bydd pecyn iaith ar gael ar gyfer Microsoft Sharepoint ym mis Mehefin.
Dwi’n croesawu hyn am bod ein system mewnrwyd adrannol ni ar fin symud o un custom, HTML i Sharepoint. Dwi wedi holi a fydd y pecyn iaith ar gael ar hwn a drwy’r Brifysgol.
Os da chi’n [...]
Windows Vista SP2
Mae Microsoft wedi rhyddhau Service Pack 2 i Vista heddiw. Fedrwch chi ei lawrlwytho o’r lincs ar waelod y post yma.
Mae o i fod i wellau sut mae Vista yn adnabod caledwedd a thechnoleg newydd, ond dwi ddim yn siwr os oes na lawer o bwynt i mi yn bersonnol i’w lawrlwytho. Dwi’n defnyddio llai [...]
Erthgyl ar Ddyfodol Digidol Cymru
Cyhoeddwyd hwn yn y Western Mail heddiw. Ynddo mae Wil Stephens, Prif Weithredwr Gweithredol Cube Interactive yn sôn am sut mae o’n gweld dyfodol cyfryngau digidol Cymru yn sgil problemau ITV Wales, a’r garreg filltir ddiweddaraf yn y saga sef ymadawiad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Elis Owen.
Gallwch ddarllen yr erthgyl lawn yma.
Mae’n erthygl daer a brwd, [...]
BBC iPlayer
Wedi darllen yn un or papurau newydd heddiw fod pennaeth ardran technoleg y BBC, Erik Huggers, eisiau codi tal ar phobl i ddefnyddio eu gwasanaeth iPlayer.
Mae’n debyg for y gwasanaeth mor boblogaith rwan eu bod nhw yn colli arian gan bod bobl ddim yn talu am y drwydded deledu.
Mae o wedi awgrymmu tri gwahanol [...]
Palm Pre
Wel mae dyddiad wedi cael ei osod ar gyfer pryd bydd y Palm Pre ar gael i’r cyhoedd (yr UDA). Ar y 6 o Fehefin fe fydd y Pre ar gael ar rwydwaith Sprint yn yr UDA am $199 (£129) ar ôl rebate. Mae llawer o ohebwyr yn gweld hwn fel ymgais olaf Palm i [...]
Golwg360 – yr ymateb ehangach…
Dyw’r llwch dal heb setlo gyda chryn drafod a chwyno am Golwg 360. Dyma ymgais i roi blas ar rai o’r tweets a blogs sydd wedi cael eu sgwennu yn y rhithfro. Mae’r ymateb yn gryf a deud y lleia:
Yr ymateb mwyaf diddorol yw bod Dafydd Tomos wedi crafu (scrape) gwefan Golwg i gael yr [...]



