Sesiynau’r Pierhead: Dyfodol Newyddiaduraeth
Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau dan yr enw Sesiynau’r Pierhead yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddechrau’r mis. Bwriad y sesiynau oedd cynnal trafodaethau ar bynciau amwrywiol er mwyn lansio’r adeilad a’i rôl newydd fel y gofod lle bydd rhyngweithio yn digwydd rhwng y Senedd a’r cyhoedd, ac i ddathlu deng mlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ar yr ochr dechnolegol dyma’r sesiwn oedd efallai o fwyaf o ddiddordeb sef sesiwn am ddyfodol newyddiaduraeth dan gadeiryddiaeth Ian Hargreaves, sydd wedi bod yn cynnal adolygiad o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Pump am y Penwythnos: SXSWi
Rhywbeth ychydig yn wahanol wythnos ‘ma. Fel dwi’n siŵr bod rhai ohonoch yn gwybod, draw yn Huston, mae’r gynhadledd South by South-West Interactive bron ar ben. Mae’r gynhadledd wedi gweld yn y blynyddoedd diwethaf lansiad y gwasanaethau gwe cymdeithasol mwyaf adnabyddus (megis Twitter, Foursquare) a chyngherddau gan grwpiau o bob cornel o’r byd.
I chi felly, dyma bigion o’r newyddion sydd wedi dod mas o Huston wythnos ‘ma:
Opera ar yr iPhone
Wythnos ‘ma, ddaru Opera ddangos fersiwn arbrofol o’r porwr ar gyfer yr iPhone (fydd ar gael ymhen ychydig o wythnosau trwy’r AppStore). Y disgwyl yw y bydd y porwr am edrych yn debyg i’r fersiwn a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer yr Android yn ddiweddar, ond hefo un peth pwysig ar goll, sef Multi-Touch.
Newidiadu i Digg
Fydd newid hefyd yn y ffordd mae Digg.com yn gweithio, trwy glymu fwy mewn i’r gwe-cymeithasol. Fydd y gwefan yn defnyddio Twitter, Facebook ag eraill i ddysgu mwy am y defnyddwyr, tynnu storiâu mewn a dewis rhai fydd o ddiddordeb i’r darllenwyr. Fydd hi hefyd yn rhwyddach i bobl rhannu storiâu ar Digg, a system newydd i yrru storiâu lan i Digg yn syth.
@anywhere
Fel y clywsoch gan Aled ychydig yn ôl, mae Twitter wedi cyhoeddi bydd gwmnïau yn gallu cynnwys cod yn eu gwefannau sy’n galluogi defnyddwyr i ddilyn ffrwd twitter eu hawduron heb orfod dilyn linc ychwanegol (e.e. yn lle gorfod mynd i Twitter a chwilio amdanaf i – @bryns – fydd hi’n bosib i chi rhoi eich llygoden dros fy enw ar y gwefan ‘ma, a chlicio “Follow” i ddilyn fy ffrwd Twitter). Yn amlwg, dyw Metastwnsh ddim yn rhan o hyn (am nawr…
), ond ddylsa hyn wneud hi’n haws i bobl ddilyn awduron, blogwyr a gwefannau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac yn galluogi pobl i greu rhwydwaith gymdeithasol sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Web Awards – Gowalla Vs Foursquare
Yn seremoni gwobrwyo SXSWi eleni, y stori fwyaf oedd pwy fysa’n ennill rhwng Foursquare a Gowalla yn y categori “Mobile” (sef gwefannau neu declyn sydd wedi ei ddylunio ar gyfer dyfeisiau symudol). Mae’r ddau wedi bod mewn rhyw fath o “Ryfel Oer” ers sbel nawr, gyda Gowalla yn mynd fwy tuag at greu gêm o’r broses darganfod llefydd newydd (trwy roi’r cyfle i bobl cael gadael pethau mewn lleoliad ar gyfer y person nesaf — Pack Rat, fel mae’r wefan yn eu galw); a Foursquare yn tueddu tuag at wneud y peth yn syml dros ben (check-in, Mayors ayyb). Pwy wneith ennill y rhyfel? Ddim syniad… ond mae’n sicr mai Gowalla ddaru ennill y frwydr ‘ma.
Cerddoriaeth
Yn wreiddiol, cynhadledd cerddoriaeth oedd SXSW, ac mae ‘na fandiau o bron phob cornel o’r byd eisoes yn mynd draw i SXSW i gael siawns i chwarae. I’r rhai ohonom ni sydd ddim digon ffodus i gael mynd draw, mae’r Torrent Gerddoriaeth SXSW lan unwaith eto i ni gael sampl fach o’r bandiau fydd yno. Mae ‘na dros fil o ganeuon ar gael, ac mae’r gallu ‘na i fynd nôl 5 blynedd. Dyw hi ddim yn sicr pa mor “gyfreithiol” yw’r torrent, ond yn ôl y sôn, mae rhan helaeth o’r bandiau wedi rhoi ei cherddoriaeth lan ar gyfer y torrent, ac mae’n cael ei drin fel rhywbeth i gael rhagor o sylw ar gyfer ei bandiau. Beth bynnag, os bod chi eisiau siawns i gael clywed y caneuon, ewch draw i (Unofficial) SXSW Torrents.
Hwyl am y tro!
B
Animeiddiad: The State of the Internet
JESS3 / The State of The Internet from JESS3 on Vimeo.
Roboteg yn Aberystwyth
Wyddwn i ddim bod na gynlluniau ar y gweill am y fath sefydliad. O’n i’n gwybod bod Aberystwyth yn gwneud yn dda iawn gyda’u prosiectau ond mae hwn yn swnio’n ffab!
Mae’r fideo yma’n rhoi syniad o’r math o safle sydd yn cael ei gynllunio:
Sgwn i lle caiff o’i leoli?
Newydd gael cip wefan y pobol Robotiaid yn Aber ac mae na sdwff cwl yna. Sbiwch! Robot o’r enw Idris!
Twitter yn mynd i unrhywle!
Mae Twitter newydd cyhoeddi eu bod nhw yn mynd i caniatau i cwmniau / gwefannau eraill i ddefnyddio côd javascript i galluogi iddyn nhw cynnig profiad twitter (y ffrwd am wn i) i unrhyw gwefan arall. Mwy am hyn gan Twitter eu hunain.
SlimStat
Tra’n chwylio am ffordd i recordio ystadegau fy ngwefan bersonnol, fe ddaeth SlimStat i fy sylw. Dwi wedi ei roi ar fy safle ac mae’n rhaid dweud ei fod yn gweithio’n ddi ffwdan hyd yma.
Mae Metastwnsh.com yn defnyddio Mint i ddilyn ystadegau, ond mae’n rhaid talu $30 am y fraint yna. Mae SlimStat yn cadw cofnod mwy manwl na Mint yn fy marn i, ond mae Mint yn edrych yn well.
Meddalwedd hollol côd-agored yw SlimStat felly mae’n apelio’n fawr iawn. Bydd rhaid dod yn ôl at yr erthygl yma unwaith ein bod ni yma wedi cael amser i edrych arno’n fanylach.Am y rheswm yna dwi wedi ychwannegu SlimStat i Metastwnsh.com
Wrth gwrs mae Google Analytics yn ffordd da i ddilyn eich ystadegau os da chi ddim yn hoffi chwarae gyda PHP a MySQL (er, does dim llawer i’w wneud a dweud gwir).
Pump am y Penwythnos
Fy nrho i yw hi erbyn hyn i ddod a phum peth diddorol/cwl/newydd i’ch sylw ar Ddydd Gwener… dyma’r rhybydd serch hynny, mae’r tôn yn eithaf geeky heddiw!
Yyn cyfri lawr felly:
5) Dwi wedi bod yn ffan o blog Belle De Jour ers blynyddoedd, ac er iddi gael ei henwi fel Dr Brooke Magnanti yn ddiweddar, dydi’r sgwennu heb stopio a dwi, am un yn hynod falch.
Cofnod wych “A Guide to Women” dalier sylw chaps!
4) I chi ddylunwyr, mae gwefan Letterheady yn eitha brill – casgliad o hen bapurau o oes aur llythyru. Dyma bapur llythr Eglwys Scientology ym 1976, hyfryd!
3) A gan ein bod ni ar drywydd mwy o wefannau sydd yn fy ffrwd RSS, ewch draw at hafan y geeks Topless Robot. Mae’r erthyglau yn ddoniol a diddanol, a mae’r fideos wastad werth eu gweld.
2) Mae Comixed yn siarad dros ei hunan:

1) Ac i ddiwedd, i’ch danfon tuagat y penwythnos efo temladau da/ossym, dyma trailer Iron Man 2. Ie wel, sgwennwch yn y sylwadau i gwyno
Diwrnod Google Streetview
Heddiw, da ni’n gweld canlyniadau gwaith Google i geisio cael llun o bron pob man yn y wlad. Rhyw ben bore ‘ma, ddaru Google rhyddhau rhagor o luniau Streetview i’r byd (eu system gweld golygfa ar bob stryd yn y wlad). Mae’r gronfa nawr yn cynnwys bron phob stryd yn y wlad, gan gynnwys rhan helaeth o Gymru.

Dwi’n siŵr bod chi, fel fi am wario rhan fwyaf o’r diwrnod yn edrych o gwmpas…

Beth yw eich barn chi? Teclyn ar gyfer twristiaeth, yntau ymosodiad ar ein preifatrwydd?
Gadwch eich sylwadau isod, neu e-bostiwch bryn@metastwnsh.com
Fforwm Metastwnsh
Dwi wedi bod yn gweithio ar ychydig o brosiectau ar gyfer Metastwnsh.com yn ddiweddar. Un or prosiectau yna yw Fforwm Metastwnsh. Mae dal gwaith i’w wneud ar y thema, ond mae’n dod yn ei flaen yn dda. Mi wnes i benderfynnu defnyddio bbPress fel asgwrn cefn y prosiect gan fy mod eisiau ehangu fy nealltwriaith o wneud themau. Mae bbPress yn cael ei ddatblygu gan y ‘run bobl a wnaeth WordPress felly mae rhai darnau yn debyg iawn.
Dwi heb anghofio am thema newydd Metastwnsh.com chaith, mae o ar ei ffordd. Fyswn i yn dweud ei fod tua 85% i 90% wedi ei gwbwlhau hyd yma. Wedyn bydd cyfnod a ddarganfod gwallau a bugs, cyn ei ryddau i’r gwyllt.
Mae’n amser prysur iawn tu ôl i leni Metastwnsh.com gan fod llawer iawn o bethau da ni eisiau datblygu er mwyn gwella’r ddarpariaeth o wasannaethau Cymraeg ar y we. Gwyliwch y gofod, fel mae nhw’n ddweud.
Cyfres Holi
Ychydig ddyddiau yn ôl fe wnes i ddechrau meddwl am ffordd i gael mwy o gynnwys ar Metastwnsh sa’n ddiddorol i ddarllen.Beth ddaeth i’m meddwl oedd gyrru holiadur allan i er mwyn cael ymateb bobl i gwestiynnau ynglyn a technoleg a’r we.
Mae’r ymateb wedi bod yn dda hyd yma, ac mae bobl yn dal i’w lenwi i fewn. Dechreuodd hedyn y syniad rai wythnosau yn ôl pan oeddwn i yn meddwl beth i’w wneud ynglyn a diwrnod Ada Lovelace 2010. Y syniad ges i yr adeg yno oedd holi ein Sioned ni sut yr oedd hi’n defnyddio technoleg yn ei bywyd bob dydd. Tipyn o hwyl a dim byd rhy drwm.
Felly dyma lle ddaeth y syniad or gyfres Holi ar gyfer Metastwnsh.com
Y gobaith yw I gael holl dîm Metastwnsh i’w lenwi i fewn er mwyn i chi ddarllenwyr gael gweld sut da ni’n defnyddio technoleg a’r we ac yna ei droi drosodd i bobl eraill sy’n amlwg ym myd technoleg, y we a’r cyfryngau.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu darllen nhw.





